Croeso i wefan Ysgol Brynaerau
Cymreictod, Cwrteisi, Caredigrwydd a Cheisio'n Gorau Glas
Ein gweledigaeth yn Ysgol Brynaerau yw meithrin ‘Cymreictod, Cwrteisi, Caredigrwydd a Cheisio’n gorau glas’ ymhlith y disgyblion.
Caiff pob unigolyn o fewn cymuned yr ysgol ei werthfawrogi a’i barchu a rhoddwn fri a phwyslais arbennig ar ddathlu llwyddiannau. Ceisiwn wireddu hyn trwy ddarparu Cwricwlwm amrywiol, cytbwys a chyfoethog gyda digon o brofiadau dysgu diddorol, amrywiol ac adnoddau cyfredol a chyfoethog i ysgogi chwilfrydedd naturiol ym mhob plentyn, waeth beth fo'u allu, hil neu ryw. Yn ei dro bydd hyn yn paratoi’r disgyblion ar gyfer eu dyfodol fel dinasyddion lleol a byd eang. Gosodir gwreiddiau cadarn yn eu milltir sgwâr, a’u Cymreictod, teyrngarwch tuag at y gymuned leol a’u hetifeddiaeth tra ar yr un pryd yn ddatblygu parch at gred a diwylliannau eraill.
Cyfeiriad
Ysgol Brynaerau,
Pontllyfni,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL54 5EU