Yma yn Ysgol Brynaerau, mae gennym Ddewiniaid Digidol sef criw o blant o bob dosbarth sydd yn gyfrifol am faterion digidol yn yr ysgol.
Pwrpas y Dewiniaid Digidol ydy rhoi cyfle i’r disgyblion fynegi barn a chydweithio gyda Staff a Llywodraethwyr yr ysgol er mwyn datblygu agweddau digidol yn yr ysgol.
Bydd y Dewiniaid Digidol yn gosod targed bob hanner tymor ar gyfer gweddill yr ysgol megis defnyddio’r tri cam cynhyrchu mewn tasg ddigidol, gwella sgiliau codio, anfon e-bost yn gywir ayyb.
Dyma flaenoriaethau’r Dewiniaid Digidol eleni:
Blaenoriaeth 1: Iechyd a Lles plant ym myd technoleg
Blaenoriaeth 2: E-Ddiogelwch
Blaenoriaeth 3: Cyfleoedd digidol gwahanol
Blaenoriaeth 4: Iaith Gymraeg a TGCh