Ers lansio’r Siarter Iaith Gymraeg yn 2011, mae llawer o weithgareddau gwerth chweil wedi digwydd yn ein hysgol. Nod y Cyngor Siarter Iaith yw dylanwadu’n bositif ar ddefnydd cymdeithasol y plant o’r Gymraeg. Yr ydym yn anelu i gael y disgyblion i siarad Cymraeg yn naturiol ymysg ei gilydd. Mae’r Siarter Iaith yn gofyn i bob aelod o gymuned yr ysgol gyfranogi – y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.
Dyma rai targedau parhaus cyngor y Siarter iaith
Yr ydym yn cynnal gweithgareddau cyson er mwyn hybu:
- Siarad Cymraeg yn y cyntedd ac yn y neuadd ginio, creu posteri i hybu defnydd o’r Gymraeg.
- Siarad Cymraeg ar y buarth, chwarae gemau buarth traddodiadol a Chymreig, a bydd defnydd o’r dreigiau yn hybu hyn ar y buarth
- Defnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. appiau, y We, tecstio)
- Siarad Cymraeg gartref
- Gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn yr ysgol . e.e trac yr wythnos, grwpiau Cymraeg yn cynnal gweithdai gyda’r disgyblion.
- Gwylio rhaglenni Cymraeg ar S4C / dros y We.
- Siarad Cymraeg y tu allan i’r ysgol (yn y siopau, parc, canolfan hamdden.
- Hyrwyddo defnyddio iaith raenus gyda Seren a Sbarc yn y cyfnod Sylfaen.
- Codi ymwybyddiaeth y disgyblion o eirfa, idiomau a dywediadau lleol i’w defnyddio o ddydd i ddydd. Posteri a byrddau arddangos o gwmpas yr ysgol a’r buarth.