Covid 19:  Gwybodaeth yr ysgol ynglyn a Covid-19 Mwy o wybodaeth

Ysgol Iach

Mae Ysgol Brynaerau yn rhan o gynllun Ysgolion Iach Gwynedd. Ym mis Medi 2019, derbyniom wobr Cam 5 a bellach rydym yn gweithio tuag at dderbyn gwobr Cam 6. Er mwyn derbyn y wobr rydym yn gorfod gweithio ar dair agwedd sef Iechyd a Lles, Diogelwch a Datblygiad Personol a Pherthnasoedd.

Dyma’r math o weithgareddau rydym yn eu gwneud yn Ysgol Brynaerau er mwyn cyflawni yr agweddau hyn:

 

Iechyd a Lles – Cynhaliwyd diwrnod Meddwl Gwyrdd (Meddwl positif) yn yr ysgol ble rannwyd y plant i grwpiau cymysg a chynnig gweithgareddau a oedd yn canolbwyntio ar y pwerau dysgu megis dyfalbarhau, canolbwyntio, trio, gwella ac ati. Cynhelir Amser Cylch ym mhob dosbarth er mwyn rhoi cyfle i’r plant drafod gwahanol faterion megis teimladau, bwlio a beth allwn ni ei wneud pan rydym yn bryderus? Cefnogwn elusennau amrywiol pob blwyddyn trwy gynnal digwyddiadau megis Her 3 Copa, gwerthu cacennau, gwisgo dillad ein hun ayyb er mwyn dangos empathi tuag at eraill. Derbyniodd griw hynaf yr ysgol sesiwn ‘Ffrind Dementia.’ Bu’r ysgol gyfan yn brysur yn dysgu ambell arwydd Makaton cyn ein Sioe Nadolig a chyflwynwyd un gân ar ffurf Makaton. Daeth Leisa Mererid draw i’r ysgol i gynnig sesiwn Llythrennedd drwy Ioga a daeth Doctor Catrin Owen draw i egluro sut mae’r meddwl yn gweithio a sut mae posib cael meddwl iach a hapus. Aethom ati hefyd i ddathlu Wythnos Iechyd Meddwl 2020 drwy gynnal llu o weithgareddau a oedd yn cynnig strategaethau ar gyfer cael meddwl iach.

Diogelwch – Yn flynyddol bydd plant y Cyfnod Sylfaen yn derbyn gwersi Kerbcraft er mwyn dysgu sut mae croesi y ffordd yn ofalus. Dysgir gwersi Diogelwch y We trwy gydol y flwyddyn ac fe gynhelir llawer o weithgareddau yn ystod Diwrnod Diogelwch ar y We megis cystadlaethau y poster gorau a’r wisg orau sydd yn rhannu rheol bwysig.  Daw PC Owen i’r ysgol bob tymor i gynnal gwersi amrywiol megis diogelwch ar y we, diogelwch o ran cyffuriau ac ysmygu, ‘stranger danger’, chwarae’n ddiogel, yr hawl i fod yn ddiogel a llawer mwy. Cawn ymweliadau blynyddol gan swyddogion NSPCC a sioe Paid Cyffwrdd – Dweud. Derbyniodd y plant gwrs Cymorth Cyntaf sylfaenol gan griw Calon y Dyffryn a hyfforddiant sut i ddefnyddio diffibriliwr.

Datblygiad Personol a Pherthnasoedd –

Cynhelir sesiynau Amser Cylch trwy’r ysgol sy’n trafod materion megis teimladau a beth sy’n gwneud ffrind da a materion mwy sensitif megis bwlio, anableddau, cyffyrddiadau priodol ac amhriodol a hiliaeth. Ceir gwersi am y corff er mwyn dysgu am rannau y corff a swyddogaethau gwahanol organau.  Dysgir bwysigrwydd hylendid personol megis golchi dwylo trwy ddefnyddio peiriant UV. Bydd disgyblion hynaf yr ysgol yn derbyn gwersi tyfu fyny er mwyn dysgu sut mae’r corff yn newid yn ystod glasoed.